Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
08 Gorffennaf 2024
SL(6)499 – Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2024
Gweithdrefn: Gwneud Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 i adlewyrchu newidiadau a wnaed gan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 a Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017.
Ychwanegwyd cyfeiriadau at y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil a’r Swyddfa Fyfyrwyr. Dilëwyd cyfeiriadau at Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr.
Rhiant-Ddeddf: Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009
Fe’u gwnaed ar: 19 Mehefin 2024
Fe’u gosodwyd ar: 21 Mehefin 2024
Yn dod i rym ar: 01 Awst 2024
Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
08 Gorffennaf 2024
SL(6)500 – Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2024
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 146 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (“Deddf 2022”), sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn Neddf 2022, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth ynddi, neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi.
Mae Deddf 2022 yn sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, yn diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ac yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â rheoleiddio a chyllido addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol ac isddeddfwriaeth er mwyn adlewyrchu’r darpariaethau yn Neddf 2022.
Rhiant-Ddeddf: Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022
Fe’u gwnaed ar:
Fe’u gosodwyd ar:
Yn dod i rym ar: 01 Awst 2024